Senedd Cymru 
 Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
 Diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau â’r gadwyn gyflenwi
 Canfyddiadau o waith ymgysylltu
 Dydd Iau 9 Rhagfyr 2021 
  

 

 

 

 

 


Use this page to provide a very brief introduction to, or

 

Fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i Diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau â’r gadwyn gyflenwi, cynigiodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y dylid defnyddio dull ansoddol wrth ymgysylltu, gan gynnwys cyfres o gyfweliadau manwl â gyrwyr cerbydau nwyddau trwm presennol a chyn-yrwyr o bob rhan o Gymru.

1.      Ymgysylltu

1.        Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfres o 16 o gyfweliadau manwl rhwng 4 Tachwedd a 16 Tachwedd 2021. Amcan y cyfweliadau manwl oedd casglu barn a phrofiadau gyrwyr cerbydau nwyddau trwm presennol a chyn-gyrwyr i helpu’r Pwyllgor i ddeall effaith a chefndir y problemau presennol sy'n ymwneud â diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. 

Cyfranogwyr

2.        Defnyddiwyd dull samplu pelen eira i ddod o hyd i gyfranogwyr. Gwnaed galwad am dystiolaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i ddenu cyfranogwyr. Yna, fe wnaeth y cyfranogwyr a ymatebodd argymell cyfranogwyr eraill.

3.        Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys 15 o yrwyr cerbydau nwyddau trwm presennol ac 1 cyn-yrrwr. Roedd gan y cyfranogwyr amrywiaeth o brofiad gyrru, o 2 i 30 mlynedd. Roedd pob gyrrwr yn meddu ar drwydded dosbarth 1, neu wedi meddu ar drwydded o’r fath yn y gorffennol. O'r 16 o gyfranogwyr, roedd 2 yn yrwyr dydd gyda'r gweddill yn gweithio i ffwrdd drwy gydol yr wythnos.

4.        Diolch i bawb a gyfrannodd at y rhaglen ymgysylltu.

Methodoleg

5.        Cynhaliwyd 13 o gyfweliadau dros y ffôn, cynhaliwyd un cyfweliad ar-lein ar Microsoft Teams a chynhaliwyd un cyfweliad yn y cnawd.

6.        Roedd modd cymharu fformat y gwaith ymgysylltu i raddau helaeth rhwng sesiynau, ond roedd peth amrywiaeth er mwyn diwallu anghenion cyfranogwyr a hwyluso sgwrs naturiol, ansoddol. Defnyddiwyd y cwestiynau canlynol i ddatblygu a llywio’r cyfweliadau:

1.          Pam mae prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm?

2.         A yw'n anodd recriwtio gyrwyr cerbydau nwyddau trwm? Os felly, pam?

3.         A yw'n anodd cadw gyrwyr cerbydau nwyddau trwm? Os felly, pam?

4.         Yn eich barn chi, beth fyddai'n denu gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn ôl i'r swydd?

5.         Yn eich barn chi, beth sydd angen ei wneud i gadw gyrwyr cerbydau nwyddau trwm rhag gadael?

7.        Yng ngweddill y papur hwn, cyfeirir at y cyfranogwyr fel 'gyrwyr'.

2.      Argymhellion gan y cyfranogwyr

Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb arbennig yn y camau y gellir eu cymryd mewn meysydd datganoledig i sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar yr allbwn yn dilyn canfyddiadau ac argymhellion ymchwiliad y Pwyllgor. Rhoddodd y cyfranogwyr eu barn ar ba gamau y gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eu cymryd i helpu a lleddfu trafferthion y mae'r sector yn eu hwynebu.

Recommendation 1. Cefnogaeth i yrwyr sôn am eu pryderon a lleisio eu barn i’w cyflogwr drwy bwyllgorau gweithwyr.

Recommendation 2. Dylai gweithrediadau weithio o ddydd Llun i ddydd Gwener yn bennaf, gyda thâl ychwanegol am oriau dydd Sadwrn a dydd Sul.

Recommendation 3. Dileu'r bloc cyfeirio 17 wythnos a’r 'cyfartaledd' o 48 awr. I’w disodli gan rotas wythnosol neu bythefnosol gyda therfyn uchaf o 48 awr ar gyfer wythnos waith.

Recommendation 4. Dylai rheolwyr trafnidiaeth sy'n gyfrifol am gynllunio siwrneiau fod â thrwydded ar gyfer gyrru cerbydau nwyddau trwm a phrofiad o yrru cerbydau o’r fath.

Recommendation 5. Mwy o safleoedd parcio rhad neu am ddim oddi ar y ffordd gyda mynediad i doiledau a biniau sbwriel.

Recommendation 6. Llefydd parcio mwy diogel oddi ar y ffordd lle gall gyrwyr barcio gyda'i gilydd a lle caiff safleoedd parcio eu monitro gan deledu cylch cyfyng.

Recommendation 7. Pob arhosfan gorffwys a gorsafoedd gwasanaethau i gadw at nod safon cyfleusterau.

Recommendation 8. Gyrwyr cerbydau nwyddau trwm i'w cynnwys yng nghynllun disgownt y Cerdyn Golau Glas, neu gynllun disgownt cyfatebol, i brynu bwyd a diod.

Recommendation 9. Cymhellion sylweddol i wneud iawn am weithio oddi cartref

Recommendation 10. Codiad cyflog i adlewyrchu'r cyfrifoldeb a'r ffordd o fyw.

Recommendation 11. Diweddaru'r cwricwlwm presennol ar gyfer y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr i fod yn fwy perthnasol i anghenion gyrwyr.

Recommendation 12. Hwyluswyr cwrs y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr i fod yn yrwyr cerbydau nwyddau trwm presennol neu’n gyn-yrwyr.

Recommendation 13. Grant gan y Llywodraeth i gefnogi gyrwyr newydd gyda chostau sefydlu cychwynnol.

Recommendation 14. Cynllun prentisiaeth wedi'i ariannu neu â chymhorthdal gan y Llywodraeth ar gyfer pob gyrrwr newydd.

Recommendation 15. Pobl sy’n dysgu gyrru i ddysgu am yr ystyriaeth sydd angen ei rhoi i gerbydau mawr ar y ffordd, a sut i rannu'r ffordd yn ddiogel gyda cherbydau nwyddau trwm. Dylai hyn fod yn rhan o'r arholiad ar god y priffyrdd.

Recommendation 16. Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd i’w haddysgu am yrru'n ddiogel i roi ystyriaeth i gerbydau nwyddau trwm.

Recommendation 17. Rhyddhad treth i yrwyr cerbydau nwyddau trwm, a'r rhai a fu'n gweithio drwy gydol y pandemig.

 


 

3.      Canfyddiadau o waith ymgysylltu

Codwyd y themâu isod yn aml yn yr 16 cyfweliad trylwyr a gynhaliwyd gyda gyrwyr cerbydau nwyddau trwm presennol a chyn-yrwyr ledled Cymru.

Amodau gwaith

Cefnogaeth gan gyflogwyr

8.        Roedd y gyrwyr yn cytuno bod diffyg cefnogaeth gyffredinol gan gyflogwyr. Disgrifiodd llawer eu bod yn teimlo'n ynysig gyda lefelau uchel o straen oherwydd y baich cyfrifoldeb arnynt fel unigolion, lle mae'r bai'n cael ei roi ar y gyrwyr gan eu cyflogwyr, y rheoleiddwyr a'r cyhoedd.

The lack of respect from supervisors and management, we are just a number, they don’t care, so long as we take the pack it’s not their problem.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

We are fully aware that logistics is an unknown entity due to a myriad of potential events that could occur, all drivers know this. However, when you have companies that take full advantage in 'bending' the rules and then totally rely upon the goodwill and nature of us drivers to continue and get the job done. Any decent company would recompense their drivers and treat them with dignity and respect, however, there are companies who do not. Us drivers are treated with contempt and regarded as ‘overrated, overpaid, overvalued and at one time, two to a penny. This was an actual statement as made by our account’s director, who we make sure, 'eats those words'.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

9.        Mae cyflogwyr yn gyfrifol am reoli mân wallau gan yrwyr, a elwir yn dor-dyletswydd. Mae gan gyflogwyr y pŵer i gymryd camau disgyblu yn erbyn gyrwyr os ydynt o’r farn bod y tor-dyletswydd yn un difrifol neu fod digon o ddyletswyddau wedi eu torri i warantu gweithredu. Teimlai gyrwyr fod yr achosion o dor-dyletswydd, a chamau disgyblu'r cyflogwr, yn aml yn afresymol. Rhoddwyd enghreifftiau o yrwyr yn cael rhybudd disgyblu am fân achosion o dor-dyletswydd heb gynrychiolaeth undeb. Disgrifiodd y gyrwyr y pwysau a’r gwrthdaro diangen yn y berthynas rhwng y cyflogwr a’r gweithwyr.

You can finish a shift and be called straight into the office to answer for something ridiculous such as being a few minutes late taking your break. We feel that everything is on our shoulders.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

We need better human factor support. I’ve heard of employee committees where you can raise the driver voice to employers on things like rest days, rotas, route planning, general grievances, pay negotiations. A system where everyone can have their say in a safe environment. I think it’s been used by the NHS.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Recommendation 1. Cefnogaeth i yrwyr sôn am eu pryderon a lleisio eu barn i’w cyflogwr drwy bwyllgorau gweithwyr.

Oriau gwaith

10.     Mae gyrwyr yn gweithio blociau 17 wythnos, a elwir yn gyfnod cyfeirio. Ni ddylai gyrrwr cerbydau nwyddau trwm weithio mwy nag wythnos waith gyfartalog o 48 awr ar draws y cyfnod cyfeirio o 17 wythnos. Fodd bynnag, gall gyrwyr weithio hyd at 60 awr mewn un wythnos cyn belled â bod y cyfartaledd cyffredinol yn 48 awr neu lai yr wythnos.

11.     Disgrifiodd gyrwyr sut mae cyflogwyr yn rhoi pwysau arnynt i weithio wythnosau 60 awr ac yna'n rhoi cyfnod segur iddynt, neu'n rhoi wythnosau gwaith byrrach iddynt, tua diwedd y bloc 17 wythnos i sicrhau nad yw'r cyfartaledd yn mynd dros 48 awr yr wythnos. Roedd y gyrwyr yn cytuno bod gweithio 60 awr yr wythnos yn cael ei effaith yn gorfforol ac yn arwain at flinder, salwch a lefelau uchel o straen.

We lost a driver last year. The outcome of the coroner's report was that he was distracted by the police. But we’re sure that it was fatigue, but we can't prove that.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

It's the beasting. The legislation which allows companies to beast us, and they take maximum advantage of that.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Why the need for blocks of 17 weeks? This should be scrapped along with the ‘averaging’ of 48 hours to restrict employers from front-loading the hours. Cap at 48, don’t average it.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

12.     Mae gan yrwyr ddiwrnod gwaith 13 awr, ac ni chaniateir iddynt weithio dros 15 awr y dydd. Mae'r ddwy awr ychwanegol at ddibenion argyfwng. Mae’r gyrwyr yn honni eu bod dan bwysau i weithio hyd at y terfyn o 15 awr, gyda rhai cyflogwyr yn rhoi’r shifft 15 awr lawn y dydd i yrwyr yn rheolaidd. Nid yw'r cyfanswm oriau dyddiol hwn yn cynnwys yr oriau y mae gyrwyr yn gyfrifol am y cerbyd a'i nwyddau.

13.     Mae gyrwyr yn honni bod rhai cyflogwyr yn annog gyrwyr i weithio mwy na’r oriau cyfreithiol penodol gan gynnwys cyfrifoldebau nad ydynt yn ymwneud â gyrru megis dadlwytho tra byddant ar egwyl.

Recommendation 2. Dylai gweithrediadau weithio o ddydd Llun i ddydd Gwener yn bennaf, gyda thâl ychwanegol am oriau dydd Sadwrn a dydd Sul.

Recommendation 3. Dileu'r bloc cyfeirio 17 wythnos a’r 'cyfartaledd' o 48 awr. I’w disodli gan rotas wythnosol neu bythefnosol gyda therfyn uchaf o 48 awr ar gyfer wythnos waith.

Cynllunio siwrneiau

14.     Y cyflogwr sy’n cynllunio siwrneiau, a’u rhoi i'r gyrrwr. Yn aml, nid yw cyflogwyr yn ystyried addasrwydd y cerbyd ar gyfer y ffyrdd a ddewiswyd, cyfyngiadau o ran amser y daith, nac ystyriaethau parcio dros nos.

15.     Soniodd gyrwyr sut nad yw cyflogwyr yn glir nac yn onest am amseriad siwrnai, megis peidio â chynnwys egwyl 45 munud neu amser casglu nwyddau o fewn siwrnai 13 awr.

A 10-hour route can turn into a 12-hour route due to having to plot a new course and backtrack. forcing us to go up to and over the legal hours. They (employers) haven’t got a clue because they don’t drive.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Recommendation 4. Dylai rheolwyr trafnidiaeth sy'n gyfrifol am gynllunio siwrneiau fod â thrwydded ar gyfer gyrru cerbydau nwyddau trwm a phrofiad o yrru cerbydau o’r fath.

 

Contractau

16.     Soniwyd bod cadw gyrwyr yn broblem i gyflogwyr llai, wrth i gyflogwyr mwy dalu hyd at £10,000 y flwyddyn yn fwy na chyflogwyr llai. Roedd llawer o yrwyr, yn enwedig gyrwyr mwy profiadol, yn teimlo bod gwahaniaethau amlwg mewn amodau gwaith, rhwymedigaethau cytundebol, a chyflogau.

I’ve been a driver for some 11 years after passing my HGV at 18 years of age. I’ve always been on “the new contract” in terms of employment T&C’s, working alongside guys and girls on far superior terms and conditions, wherever I have worked. Why are the individuals on far better T&C’s and pay still doing the job 15/20 years on, yet drivers on “the new contract” - usually on lower wages, fewer holidays, lower overtime rates, worse or no sickness packages, with zero incentives or perks leaving at the drop of a hat? Read this paragraph again, it’s self-explanatory. 

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Parcio

17.     Un o’r problemau pennaf ymhlith y gyrwyr oedd prinder llefydd parcio sy’n addas at y diben, sy’n ddiogel ac sy’n rhad.

Diffyg parcio

18.     Roedd y gyrwyr yn cytuno bod prinder llefydd parcio addas. Roedd nifer yn sôn am y trafferthion a geir wrth ddod o hyd i le parcio wrth i’w hamser ddod i ben. Os bydd gyrwyr yn cyrraedd safle parcio ac os nad oes lleoedd ar gael, rhaid iddynt fynd ymlaen i'r safle parcio nesaf. Gyda phrinder llefydd parcio, gall hyn ddigwydd yn rheolaidd. Yna mae'n rhaid i yrwyr yrru dros eu hamser penodedig. Mae’n dal i fod yn bosibl i yrwyr gael dirwy am hyn, yn enwedig os yw'n digwydd yn amlach na dwy neu dair gwaith y mis.

19.     Wrth i fwy a mwy o gilfannau a gorsafoedd gwasanaethau flaenoriaethu parcio ar gyfer carafannau, mae gyrwyr yn ei chael hi'n anos parcio'n ddiogel dros nos. O’r herwydd, mae gyrwyr yn parcio lle bynnag y gallant, megis mynedfa ffatrïoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio neu safleoedd diwydiannol.

There are not enough stops or parking as it is, we’re 50,000 drivers short, imagine the problem when they’re back on the road!

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Everything eventually is transported by road; our trucks have to park somewhere.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

20.     Dywedwyd bod y gost o barcio dros nos mewn gorsaf gwasanaethau yn £35 y noson. Mae gyrwyr yn talu'r gost ymlaen llaw. Am wythnos waith, gall y gyrrwr dalu dros £175 am barcio dros nos. Mae rhai cyflogwyr, ond nid pob un, yn ad-dalu'r gyrrwr wythnos yn ddiweddarach. Mae gyrwyr yn honni bod cyflogwyr yn rhoi pwysau arnynt i beidio â thalu i barcio er mwyn arbed costau.

Companies make it clear that they don’t want you to park overnight in the services, they don’t want to pay the money back. With the cost of fuel, truck maintenance, the expense to keep a truck on the road is unbelievable, so they actively encourage us not to park overnight in the services.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Recommendation 5. Mwy o safleoedd parcio rhad neu am ddim oddi ar y ffordd gyda mynediad i doiledau a biniau sbwriel.

Diogelwch gyrwyr

21.     Esboniodd gyrwyr fod cerbydau, wrth barcio dros nos, yn cael eu targedu'n rheolaidd gan ladron. Mae gan y lladron gyllyll y maent yn eu defnyddio i dorri llenni'r cerbyd. Soniodd un gyrrwr am gael ei fygwth â chyllell a dywedwyd wrtho am ddychwelyd i'r cerbyd.

22.     Gall gyrwyr ddeffro i ganfod bod eu disel wedi'i ddwyn, gan olygu na allent symud.

23.     Mae gyrwyr yn gweld hyn fel perygl galwedigaethol a dywedant nad ydynt yn adrodd am y rhan fwyaf o'r ymdrechion i ladrata os gallant drwsio’r llen. Bydd rhai gyrwyr yn cysgu dros nos gyda drws cefn y trelar ar agor i ddangos i ladron posibl nad oes dim o werth i'w ddwyn yn y cerbyd.

You’ve either got to pay to park or take the risk of having your diesel stolen or your curtains slashed.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

I’ve been robbed over 10 times. It’s a horrible thing to admit but you expect it. The last time they slashed three holes in the curtain big enough to drive a vehicle through, half my load was on the layby ready to be stolen. Even the police see it as an occupational hazard. As drivers we just accept it.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

We call some stretched of road bandit country, you will get robbed. But it happens everywhere.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

24.     Soniodd gyrwyr am y blinder a brofir wrth geisio cysgu mewn cerbyd sydd wedi'i barcio mewn ardal anniogel. Pan fydd gyrrwr yn gorffen ei shifft, mae angen iddo barcio a gorffwys yn rhywle, ac os na allant gysgu'n iawn, byddant yn gyrru’r diwrnod canlynol â hwythau’n flinedig.

You can’t sleep properly when you’re worried about being robbed. Every little noise wakes you up. Nobody wants to drive tired.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Recommendation 6. Llefydd parcio mwy diogel oddi ar y ffordd lle gall gyrwyr barcio gyda'i gilydd a lle caiff safleoedd parcio eu monitro gan deledu cylch cyfyng.

Cyfleusterau

25.     Roedd yr holl yrwyr y cyfwelwyd â hwy yn ystyried nad oedd y cyfleusterau mewn arosfannau gorffwys a gorsafoedd gwasanaethau o safon ddigonol ac nid oeddent yn addas at y diben. Roedd y gyrwyr yn cwyno am gawodydd wedi torri, teils wedi torri, a chyfleusterau ymolchi budr

26.     Soniodd y gyrwyr hefyd am gost bwyd a diod mewn gorsafoedd gwasanaethau fel problem. Honnodd un gyrrwr iddo orfod talu £1.80 am gwpanaid o ddŵr poeth.

I would never change from being a day driver to driving overnight, service station facilities are atrocious and the risk of being robbed when your parked overnight means I’d never consider it.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Recommendation 7. Pob arhosfan gorffwys a gorsafoedd gwasanaethau i gadw at nod safon cyfleusterau.

Recommendation 8. Gyrwyr cerbydau nwyddau trwm i'w cynnwys yng nghynllun disgownt y Car Glas, neu gynllun disgownt cyfatebol, i brynu bwyd a diod.

Ffordd o fyw

27.     Roedd yr holl yrwyr y cyfwelwyd â hwy yn sôn am y straen a roddir ar fywyd teuluol, a pherthnasoedd, oherwydd y ffordd o fyw gan eu bod oddi cartref drwy'r wythnos. Soniodd y gyrwyr mor anodd yw peidio â bod gartref pan oedd eu plant yn sâl; colli digwyddiadau fel nosweithiau rhieni neu ben-blwyddi; neu fethu â chael apwyntiad â’r meddyg.

I know of a lot of drivers who got divorced because of the time away from their family. It breaks so many families up. We can’t keep drivers because work-life balance is non-existent, nobody wants a job that takes all your family life. Not all drivers have it easy at home for one reason or another and we should have a company who listens

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

When you’re out on the road and you see families with luggage on the roof, you look at them with envious eyes because they’ve got a life. Friends wonder why I work in this job, for instance, if you have a weekend off at the start of the children’s holidays your lucky if you get another one before they go back in the summer

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Cyflogau

28.     Teimlai llawer o yrwyr fod y mewnlifiad o yrwyr o'r Undeb Ewropeaidd wedi arwain at gystadleuaeth am gyflogaeth a chyflogau is. Mae llawer o yrwyr yr UE wedi gadael bwlch yn y farchnad, ond nid yw’r cyflogau wedi cynyddu’n sylweddol. Roedd y gyrwyr yn cydnabod bod yr Almaen a Gwlad Belg, er enghraifft, yn talu gyrwyr yn dda a bod y rhan fwyaf o yrwyr yr UE wedi gadael y DU i yrru yn Ewrop gan fod y cyflog yn well. Yn ôl un gyrrwr, ‘mae’r gyrwyr yn mynd lle mae’r tâl yn dda’.

I think the main reason we have a driver shortage is the way employers treated drivers when they had access to Eastern European drivers, I can't be the only one told that if I didn't like it there's plenty that want the job.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

29.     Roedd sawl gyrrwr yn cydnabod y codiad cyflog diweddar a gafwyd. Fodd bynnag, teimlai llawer o yrwyr nad yw hysbysebion swyddi yn adlewyrchu'r contract yn gywir na’r cyflogau gwirioneddol sy’n cyrraedd eu poced. Soniodd llawer am enghreifftiau o amodau a roddir pan lofnodir y contract, megis ar gyfer taliadau bonws, er enghraifft ar yr amod na chymerir unrhyw absenoldeb salwch yn eich 6 mis cyntaf o gyflogaeth neu daliadau bonws dros gyfnodau hir mewn rhandaliadau bach.

30.     Teimlai’r gyrwyr nad oedd y cyflog a gyrhaeddai eu poced yn llawer mwy na'r isafswm cyflog. Roedd gyrwyr yn ddig ac yn siomedig ar y gyfradd gyflog hon, gan honni nad yw'n adlewyrchu'r cyfrifoldeb o yrru cerbyd nwyddau trwm ac nad yw'n gymhelliant teg i weithio oddi cartref i ffwrdd o anwyliaid. Teimlai’r gyrwyr y gallent ennill yr un arian yn 'stocio silffoedd mewn archfarchnad'.

I go out on a Sunday evening and come back on a Friday night, and I take home £800 a week. When you break that down it’s £10 an hour. Because you always do more hours than the Tachograph shows. On top of that, it cost me £150 a week to live on the road for food.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

To earn around minimum wage is not enough of an incentive to basically give up your life and be away from your family from Sunday to Friday.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

It’s not hard for a good company to retain its drivers, with incentives to stay E.G., 5 years £500, 10 years £1000, 15 years £1500, extra holidays and treated with respect/ a sense of worth.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

31.     Cymharodd un gyrrwr y cyfwelwyd ag ef y gwaith o yrru cerbyd nwyddau trwm â rôl o weithio ar rig olew, wrth iddo gyfleu’r amser i ffwrdd o'r teulu a'r cyfrifoldeb. Teimlai’r gyrwyr fod angen i gyflogau adlewyrchu’r cyfrifoldeb a’r ymrwymiad sydd ei angen yn y swydd. Fel arall, ni fydd pobl am ddechrau gweithio yn y proffesiwn, ac ni fyddent am aros yn y proffesiwn.

Everything in your home, everything you buy, everything you own was transported on a lorry. We need drivers, and the pay needs to reflect the lifestyle demands and responsibility. Employers are willing to pay for fuel but not for people.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Recommendation 9. Cymhellion sylweddol i wneud iawn am weithio oddi cartref

Recommendation 10. Codiad cyflog i adlewyrchu'r cyfrifoldeb a'r ffordd o fyw.

Dirwyon

32.     Roedd yr holl yrwyr y cyfwelwyd â hwy yn cytuno bod dirwyon, o ganlyniad i dorri rheoliadau a thor-dyletswydd, yn annheg ac yn aml yn anochel.  Os bydd gyrwyr yn gweithio mwy na’u hamser Tacograff, gellir cael dirwy o £300. Rhoddodd llawer o yrwyr enghreifftiau pan oeddent yn sownd mewn traffig ar eu ffordd gartref gydag amser yn mynd yn brin.

I’ve been heading home with plenty of time to get back, I get stuck in traffic and now I’m stuck by Magor. I go over my drive time, so I get an infringement on my Tachograph and a £150 fine from VOSA unless I prove it. But I can’t prove it as I’m not allowed to use my phone. You can’t win you just have to pay it.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

33.     Teimlai’r gyrwyr fod llawer o ddirwyon yn bodoli i greu refeniw ar gyfer yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA). Un enghraifft a gafwyd oedd dirwy o £50 a roddwyd i yrrwr nad oedd ganddo, pan gafodd ei stopio gan VOSA, ei gerdyn CPC yn ei feddiant. Gall VOSA wirio'r gronfa ddata electronig ar ochr y ffordd i gadarnhau manylion adnabod CPC y gyrwyr. Mae llawer o yrwyr yn gweld hyn fel enghraifft o fiwrocratiaeth ddiangen ac yn ffordd hawdd o wneud arian.

VOSA are self-funded, so they look for ways to fine drivers all the time, we’re a money-making machine for them.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr  (CPC)

34.     Mae’r Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr yn gyfres o safonau a ddatblygwyd gan yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod pob gyrrwr proffesiynol yn gymwys ac yn cael hyfforddiant ac addysg barhaus. Er mwyn cadw Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol, rhaid i yrwyr gwblhau 35 awr o hyfforddiant cyfnodol bob pum mlynedd i barhau i yrru'n broffesiynol.

35.     Dywedodd gyrwyr fod Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol yn costio rhwng £500 a £1000. Mae llawer o yrwyr yn talu am hyn eu hunain. Os yw eu cyflogwr yn talu am y Dystysgrif, mae'n ofynnol i yrwyr ei dalu'n ôl i'r cyflogwr os ydynt yn gadael o fewn hyn a hyn o amser. Gall cost hyfforddiant fod yn rhwystr i yrwyr, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn ystyried gadael y proffesiwn. 

36.     Y prif fater y soniwyd amdano gan yrwyr y cyfwelwyd â hwy oedd y cwricwlwm gwael a’r diffyg arbenigedd a gwybodaeth ynglŷn â’r diwydiant a welir gan yr hwyluswyr.  Ar ôl blynyddoedd lawer o yrru, mae mynd yn ôl i'r 'ystafell ddosbarth' yn destun dicter gan nifer sylweddol o yrwyr profiadol, yn ôl y rhai y cyfwelwyd â hwy.

The ethos is good, to professionalise the industry, but the curriculum doesn’t really teach you anything. Drivers begrudge going when it doesn’t give them anything worthwhile. We need easy to understand overviews of new legislation and some of the new drivers could do with hearing from more experienced drivers, like passing down the knowledge.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

I think it should be scrapped completely. It’s a waste of time. There are boys that have been in the industry for 30 years who must sit in the classroom and be told how to do their job.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Recommendation 11. Diweddaru'r cwricwlwm presennol ar gyfer y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr i fod yn fwy perthnasol i anghenion gyrwyr.

Recommendation 12. Hwyluswyr cwrs y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr i fod yn yrwyr cerbydau nwyddau trwm presennol neu’n gyn-yrwyr.

Ôl-groniadau trwyddedau

37.     Siaradodd gyrwyr am hanesion lle roedd cydweithwyr wedi gadael y diwydiant oherwydd ôl-groniadau ceisiadau am drwyddedau yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Esboniodd un gyrrwr sut y penderfynodd cydweithiwr iddo, a oedd wedi ymddeol yn gynnar, adnewyddu ei drwydded a gyrru oherwydd prinder y gyrrwr. Fodd bynnag, mae'n dal i aros am ateb gan y DVLA ar ôl 6 mis.

38.     Dywedodd gyrwyr, oherwydd ôl-groniad ac oedi, fod gyrwyr wedi cael eu gwrthod pan na adnewyddwyd eu trwyddedau. Ni chawsant eu hadleoli na'u galw i wneud gwaith arall gan eu cyflogwr, cawsant eu gwrthod heb dâl.

39.     Yn 50 oed, mae'n ofynnol i yrwyr basio arholiad meddygol cyffredinol i gadw eu trwydded. Oherwydd ôl-groniad trwyddedau, rhaid i yrwyr yrru gyda thrwydded dros dro yn y cyfamser. Fodd bynnag, mae llawer o yrwyr hŷn nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd wedi drysu ynghylch a ydynt yn dal i gael gyrru ai peidio, gan arwain at lawer yn penderfynu peidio â pharhau i yrru.

 

Gyrwyr newydd

40.     Roedd gyrwyr profiadol a gyrwyr newydd y cyfwelwyd â hwy yn teimlo y gellid gwneud mwy i gefnogi gyrwyr newydd ac y byddai ffigurau cadw yn gwella pe bai gyrwyr newydd yn cael cymorth drwy'r blynyddoedd cyntaf.

Costau sefydlu

41.     Gall fod cryn wariant ariannol cychwynnol i yrwyr newydd. Rhaid iddynt ddod o hyd i gyllid ar gyfer offer; a Satnav; CPC, hyfforddiant ac ati. Esboniodd gyrwyr y gallai costau cynnar cychwynnol a pharhaus fod yn ffactor wrth i’r niferoedd recriwtio fod yn wael. Dywedodd un gyrrwr ei fod yn deall pam nad oedd pobl ifanc am ymuno â'r diwydiant, gan y byddent yn ennill isafswm cyflog yn y rhan fwyaf o achosion.

Recommendation 13. Grant gan y Llywodraeth i gefnogi gyrwyr newydd gyda chostau sefydlu cychwynnol.

Dod o hyd i waith

42.     Esboniodd gyrwyr fod llawer o yrwyr ifanc yn ymuno â'r proffesiwn ac yna eu bod yn ei chael hi'n anodd cael gwaith, a’r rheswm a roddir am hyn yw bod yn rhaid i gyflogwyr dalu premiwm yswiriant uwch i yrwyr o dan 25 oed, ac felly maent yn gofyn bod ganddynt 2 flynedd o brofiad. Mae'r sefyllfa hon yn ei gwneud yn anodd iawn i yrwyr ifanc gael gwaith.

If you say to someone, if you can get this job you have to spend nearly £5000 of your own money, nobody will want to touch you because you won’t have enough experience to start with. But if you do start to work, you’ll have to work long hours and if anything goes wrong, you’ll get blamed for it whether it’s your fault or not,

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Diffyg gwybodaeth am y diwydiant

43.     Roedd gyrwyr yn deall y gall llawer o yrwyr newydd deimlo eu bod wedi'u llethu gan reoliadau, dirwyon a chyfrifoldebau'r swydd. Ystyriwyd bod cyfleu gwybodaeth am y diwydiant yn allweddol i sicrhau bod gyrwyr newydd yn aros yn y swydd.

44.     Roedd nifer o yrwyr o blaid prentisiaethau gyrru cerbydau nwyddau trwm megis y cynllun prentisiaeth 'Warehouse to Wheels'. Mae llawer o gynlluniau yn paru prentis gyda gyrrwr profiadol i sicrhau bod gwybodaeth am y diwydiant yn cael ei throsglwyddo.

45.     Esboniodd gyrwyr sut y mae prentisiaid yn cael eu hasesu’n gychwynnol wrth yrru fan cyn ymuno â gyrwyr profiadol ar y ffordd am sawl mis. Mae rhai prentisiaid yn cael eu talu yn unol â chyflog Dosbarth 2 ar gyfer rhan gyntaf yr hyfforddiant, yna cyflog Dosbarth 1. Unwaith y byddant yn pasio eu prawf gyrru cerbydau nwyddau trwm, cânt eu paru eto gyda gyrrwr profiadol wrth yrru ar eu pen eu hunain. At ei gilydd, mae rhai cynlluniau'n para 13 mis ac os bydd y prentis yn aros gyda'r cwmni, caiff ei wahaniaeth cyflog ei ôl-ddyddio rhwng dosbarth 2 a dosbarth 1, fel tâl cadw, ynghyd â chontract cyflogaeth.

You could be in the yard, hooking up your trailer and struggling with a lead or something and a lorry would drive past, someone you’d never met before and immediately help you out. I was blown away by that; I’ve just changed career from the leisure industry to become an HGV driver, I’m not so sure many of my previous colleagues would be that helpful. Drivers help each other out. We need to consider how to keep and use the driving community to support new drivers coming through.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Recommendation 14. Cynllun prentisiaeth wedi'i ariannu neu â chymhorthdal gan y Llywodraeth ar gyfer pob gyrrwr newydd.

Canfyddiadau'r cyhoedd

46.     Teimlai gyrwyr fod canfyddiad cyhoeddus ac agwedd negyddol tuag at yrwyr cerbydau nwyddau. Roedd gyrwyr ar ddeall bod y cyhoedd yn ystyried bod gyrru cerbydau nwyddau trwm yn swydd ddi-grefft a bod diffyg parch gan y cyhoedd i'r diwydiant.

You work long days at work as a driver, you then get pressure and grief from your management, then you get complaints and attitude from the public when you are delivering to stores. Even though we are a crucial part of an even bigger network getting all types of products to all sorts of places, we are the people who get blamed for polluting the planet. There are more and more cars on the road with unsafe or inpatient drivers you put all our lives at risk, but when an incident accrues, we are to blame and need to try and prove our innocents. Then after getting home after all this, we are then too tired to spend time with our families and friends, putting a strain on your social life. The wage we receive does not make up for the stress we are under.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

47.     Esboniodd gyrwyr fod y diffyg parch gan y cyhoedd tuag at yrwyr a'r gwerth isel a osodir ar y diwydiant gan y cyhoedd a'r Llywodraeth wedi chwarae rhan sylweddol o ran denu pobl i'r diwydiant.

48.     Roedd yr holl yrwyr y cyfwelwyd â hwy yn teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu yn ystod pandemig Covid. Roedd gyrwyr yn gweithio drwy gydol y pandemig, ond maent yn teimlo'n gryf nad ydynt wedi cael cydnabyddiaeth na chefnogaeth deg gan y Llywodraeth, na'u cyflogwyr, am eu hymdrechion.

Everyone thanked the NHS during Covid, they had discounts everywhere, but we were the ones delivering everything to them, and everyone else. All the people who worked through the pandemic to keep things going should have been looked after and appreciated too.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

We haven't been given even any acknowledgement or gratitude for working through the pandemic. In fact, the accounts director, said, ‘so you driver's want a bonus and they are fed up with that because we haven't given them a bonus, tough’.

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

Better working conditions work-life balance just because we are in short supply doesn’t mean just work us harder and longer, we were key workers one minute and scum bags the next there is no respect for us, and we are not treated as a profession just a necessary evil to be used and abused then discarded at the first hint of medical weakness 

Gyrrwr Cerbyd Nwyddau Trwm

49.     Mae gyrwyr hefyd yn teimlo nad yw'r cyhoedd yn deall y cyfrifoldeb o yrru cerbyd nwyddau trwm. Mae gyrwyr yn honni bod yn rhaid iddynt gywiro eu gyrru'n rheolaidd er mwyn osgoi damweiniau oherwydd defnyddwyr eraill y ffordd. Mae gyrwyr yn teimlo bod hyn yn peri straen mawr ac yn teimlo bod lefel y straen a'r cyfrifoldeb yn cael ei gwaethygu yn sgil defnyddwyr eraill y ffordd yn gyrru’n wael. Mae gyrwyr hefyd yn teimlo y bydd unrhyw ddamwain sy'n ymwneud â cherbyd nwyddau trwm yn cael ei beio ar yrrwr y cerbyd hwnnw.

Recommendation 15. Pobl sy’n dysgu gyrru i ddysgu am yr ystyriaeth sydd angen ei rhoi i gerbydau mawr ar y ffordd, a sut i rannu'r ffordd yn ddiogel gyda cherbydau nwyddau trwm. Dylai hyn fod yn rhan o'r arholiad ar god y priffyrdd.

Recommendation 16. Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd i’w haddysgu am yrru'n ddiogel i roi ystyriaeth i gerbydau nwyddau trwm.

Recommendation 17. Rhyddhad treth i yrwyr cerbydau nwyddau trwm, a'r rhai a fu'n gweithio drwy gydol y pandemig.

4.      Y gair olaf

Gofynnwyd i yrwyr gyflwyno ychydig o frawddegau i grynhoi'r materion yn eu geiriau eu hunain. Gweler isod ddetholiad o'u cyfraniadau.

The age demographic of drivers is now into the late 50 so in the next 10-12 years most drivers in this country will have retired, why on earth would any young person want to go into the haulage industry. Any child of a driver will know how shit it is as they never saw their father. It’s dirty, shit pay, stuck in traffic, treated like a second-class citizen, spoken to like shit, continually hassled by office clerks who can’t even drive a car, VOSA and the Police. Made to wait in cold, damp, drafty corridors with no facilities while the warehouse takes hours to tip you. Shit pay. 

 

It's disgusting we are treated like animals no descent facilities hours are very unsociable no work life balance most drivers end up divorced due to this fact management sit in their offices or at home during pandemic while we as drivers are at the front line there is no respect towards us we have to work for people that have never been in a lorry never mind drive  one  ,the license and training is expensive then CPC what a waste of time 8 hrs in a classroom teaching your granny to suck eggs and for what for a minimum wage and yet we're still classed as unskilled even though we are driving a 44ton killing machine carrying everything anyone needs millions of pounds of goods a day ,too many just out of college/University pen pushers telling us we a two penny and there's plenty of people want your job large companies used to be dead man shoes to get jobs now they're only interested in manager and shareholder bonuses I could go on  treat us with the respect we deserve and oak us what we deserve remember who was out In  the real world during the pandemic 

 

There is a shortage due to long hours, anti-social hours, poor work-life balance, no family time, excessive weekend working, shit pay for the work and conditions we are expected to work in, poor management, bad management, ignorant management, management who do not understand the job as they haven’t done it, Shit facilities whilst on the road, unrealistic target times, excessive red tape, lack of support from upstairs, shit pay, drawn-out pay negs which shows a total lack of respect and consideration for the workforce. Total disregard for drivers mental and physical health.

                     

Long hours, time away from family, for general haulage being constantly lied to i.e., your loads ready etc, being constantly pushed to maximise your hours, lack of facilities/respect, PAY, in the words of Neil diamond “Money talks, it doesn’t sing, and dance AND IT DONT WALK”

 

Many people are willing to work long hours but they don’t want an open-ended finish time which is unavoidable in the industry, nor do they want to live in a tin can Monday - Friday cooking in the cab having to spend their own money to make their life bearable getting treated like second class citizens at collection delivery points, lack of communication at sites needless waiting times, making the job unachievable in expectations using time and motion studies like an office environment, pushing timings so tight that it is effectively impossible to properly implement SSOW however making sure they train you in it and make you sign off on the rules to cover the company insurance policy